P-05-943 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau gwelliannau i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Carron Jones, ar ôl casglu 2,595 o lofnodion ar-lein a 2,855 ar bapur, sef cyfanswm o 5,450 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i sicrhau fod gwelliannau pendant yn cael eu gwneud i'r A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog yn dilyn y damweiniau trist a thorcalonnus sydd wedi digwydd yno yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod newid pendant yn cael ei wneud i'r ffordd rhag i drychinebau o'r fath ddigwydd eto.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyfor Meirionnydd
· Canolbarth a Gorllewin Cymru